National Women in Engineering Day 2016 / Diwrnod Cenedlaethol Menywod mewn Peirianneg 2016

Scroll down to read in Welsh.

To celebrate National Women In Engineering Day, we wanted to share the story of Marianna Mercado, an engineer who works for Network Rail.

 

Please describe your current role:

SCADA Senior Project Engineer – I am responsible for ensuring that the Control and Monitoring System of the High Voltage Substations for Crossrail is designed, tested and built to the necessary requirements. I deal on a daily basis with a large number of stakeholders: designers, subcontractors, system commissioning parties and other major Network Rail Projects such as National SCADA and Great Western.

How did you get to where you are now?

I have a Control Systems Engineering university degree, I studied in Argentina (my original home country), I joined the UK through the Bechtel Graduate Programme in September 2001. Since then I had the opportunity to work on the SCADA system for High Speed 1 railway, and then have had a number of roles supporting the West Coast Programme Manager and later the Six Sigma Process Improvements within West Coast.

I also went to Qatar in 2007 for 2 years to work on the New Doha Airport Project, after that I returned to the UK to work on the railways and had a number of roles supporting engineering work. In 2013 I joined NR Crossrail as Senior SCADA Project Engineer where I have overseen the detail design and now I am overseeing the build and testing of the system.

What do you enjoy most about working in Rail?

Improving and building railways has a positive impact on society and that for me is the main motivator. I use the railways and then I get to improve it! I can travel on the high speed 1 to Paris and see on the line a number of features that I did!

What have your experiences been as a woman working in a predominantly male industry?

Overall it has been very good and as I did engineering at university, so I am used to being surrounded mainly by men at work. In my years in the industry (14!) I can only think of two situations that I felt being a woman influenced the situation:

- About 10 years ago I was in front of a male presenter who was very openly speaking inappropriately about females in the industry in front of a class, I kept my calm and I reported the incident and it was dealt with immediately, however it was not easy to confront the situation in front of other people. I think this would be very unusual nowadays.

- 6 years ago I had my child and I decided to come back to work part time and do flexible working, since then I have done a mix of part time and flexi working. I probably have taken more than I can do in my part time hours and I am unsure if the career progression is as smooth as it could be if you make the decision to work part time / flexible, it took a few years to be able to demonstrate that I could deliver as before and to find the right work opportunity and ask for a chance.

The government is taking the right steps to allow fathers to share paternity leave, however is still not yet common practice. I believe if both sexes have the same opportunity and rewards for taking leave the parental care will be shared more and this will improve things.

Why do you think so few young women consider construction to be a career option? (i.e. negative preconceptions, lack of awareness and career advice)

I believe lack of awareness from an early age plays a big part on this, I am referring to primary education and how exciting science is and how it is portrayed to children - is it a mad scientist that looks like Einstein? Although some effort has been made to make female scientists known I am not sure if at primary schools this is done and if at a practical level children are shown what engineers and scientists can do.

Also the other thing is the girl vs boy toys that are on the market, the distinction is so obvious and the fact that most of the girl toys seem to be pink and pretty does not help.

The early age education and environment to do with family and school in my opinion plays the main part.

What advice would you have for women and girls considering a career in construction?

Firstly the opportunities are immense there always will be the need to build stuff so in that sense is a very good career choice.

The work is exciting there are many aspects to it: the scientific side if you like the design; the hands on construction if you like seeing things being built; the manager side as you need to keep an eye on how long it will take, how much it will cost; the social side as you will meet different people and work on a group; even a creative side as there are always issues that come up and it needs thinking how to resolve things best.

Companies and Government have realised for some years now that the best deliverables produced in well represented inclusive work sites, so being a woman is no longer an issue.

As with anything else the main thing is to have the right attitude - I would say that the most important thing for me has been to have an open mind about any role that was presented to me, to always try the best you can do and do not be afraid to go beyond your remit in terms of learning other skills as those new skills normally get you noticed for your next role. 

 

Engineering and other careers in construction are #NotJustForBoys, share your story today - #NWED2016


I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Menywod mewn Peirianneg, roedd arnom eisiau rhannu stori Marianna Mercado, peiriannydd sy’n gweithio i Network Rail.

 

Disgrifiwch eich swydd bresennol:

Uwch Beiriannydd Prosiect SCADA – Rwy’n gyfrifol am sicrhau bod y System Rheoli a Monitro’r  Is-orsafoedd Foltedd Uchel ar gyfer y Crossrail wedi’i dylunio, ei phrofi a’i hadeiladu i fodloni’r gofynion angenrheidiol. Rwy’n ymdrin â nifer fawr o randdeiliaid bob dydd: dylunwyr, isgontractwyr, pobl sy’n ymwneud â chomisiynu’r system a phrosiectau mawr eraill Network rail, megis National SCADA a Great Western.

Beth oedd eich llwybr i gyrraedd y swydd hon?

Mae gen i radd prifysgol mewn Peirianneg Systemau Rheoli. Astudiais yn yr Ariannin, (fy ngwlad enedigol), ac yna dod i’r DU drwy raglen Graddedigion Bechtel ym mis Medi 2001. Ers hynny, rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar y system SCADA ar gyfer rheilffordd Cyflymder Uchel 1, ac yna wedi gwneud sawl swydd yn cefnogi Rheolwr Rhaglen yr Arfordir Gorllewinol ac yn ddiweddarach, Proses Welliannau Six Sigma yn Rhaglen yr Arfordir Gorllewinol.

Yn ogystal, es i i Qatar am ddwy flynedd yn 2007 i weithio ar Brosiect Maes Awyr newydd Doha.  Wedi hynny, dychwelais i’r DU i weithio ar y rheilffyrdd, gan wneud sawl swydd yn cefnogi gwaith peirianneg. Yn 2013, ymunais â rhaglen Crossrail Network Rail fel Uwch Beiriannydd Prosiect SCADA. Roeddwn yn gyfrifol am oruchwylio’r dyluniad manwl ac rwyf erbyn hyn yn goruchwylio’r gwaith o adeiladu a phrofi’r system.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am weithio yn y diwydiant Rheilffyrdd?

Mae gwella ac adeiladu rheilffyrdd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas, a dyna, i mi, yw’r prif gymhelliant. Rwy’n defnyddio’r rheilffordd, ac yna’n cael cyfle i’w gwella! Gallaf deithio ar y rheilffordd cyflymder uchel 1 i Baris a gweld nifer o nodweddion yr oeddwn i’n gyfrifol amdanynt arni!

Beth yw eich profiad o fod yn fenyw yn gweithio mewn diwydiant sy’n cyflogi llawer mwy o ddynion na menywod?

Yn gyffredinol, mae wedi bod yn brofiad da iawn, a gan fy mod i wedi astudio peirianneg yn y brifysgol, rwy’n gyfarwydd iawn â gweithio yng nghanol dynion. Yn ystod fy mlynyddoedd yn y diwydiant (14!) ni allaf ond meddwl am ddwy sefyllfa lle roeddwn yn teimlo bod y ffaith fy mod yn fenyw wedi dylanwadu ar y sefyllfa:

- Tua 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd o flaen dyn a oedd yn gwneud cyflwyniad, gan sôn am fenywod yn y diwydiant mewn ffordd amhriodol, a hynny’n agored iawn, o flaen dosbarth. Wnes i ddim cynhyrfu, ac adroddais am y digwyddiad ac aethpwyd i’r afael â’r peth yn syth bin, ond nid oedd yn hawdd ymdrin â’r sefyllfa o flaen pobl eraill. Rwy’n credu y byddai rhywbeth felly yn anghyffredin iawn y dyddiau hyn.

- 6 blynedd yn ôl, cefais fy mhlentyn a phenderfynais ddychwelyd i’r gwaith yn rhan-amser a gweithio oriau hyblyg. Ers hynny, rwyf wedi gwneud cyfuniad o weithio rhan-amser a gweithio oriau hyblyg. Mae’n debyg fy mod i wedi derbyn mwy o waith nag sy’n bosibl i mi ei wneud yn fy oriau rhan-amser a dydw i ddim yn siŵr a yw’r broses o gamu ymlaen yn eich gyrfa mor llyfn ag y gallai fod os ydych chi’n gwneud y penderfyniad i weithio’n rhan-amser / oriau hyblyg. Fe gymerodd sawl blwyddyn i mi allu dangos fy mod i’n gallu cyflawni cymaint ag o’r blaen, ac i ddod o hyd i’r cyfle gyrfa iawn ac i ofyn am gyfle. 

Mae’r llywodraeth yn cymryd y camau cywir wrth ganiatáu i dadau rannu absenoldeb tadolaeth, ond nid yw’n arfer cyffredin hyd yma. Os yw’r ddau ryw yn cael yr un cyfle a’r un buddion am gymryd cyfnod o absenoldeb, bydd mwy o rannu cyfrifoldebau gofal rhwng rhieni, a bydd hyn yn gwella pethau.

Pam ydych chi’n meddwl bod cyn lleied o fenywod ifanc yn ystyried adeiladu wrth ddewis gyrfa? (h.y. rhagdybiaethau negyddol, diffyg ymwybyddiaeth a chyngor gyrfaoedd)

Yn fy marn i, mae diffyg ymwybyddiaeth o oedran cynnar yn rhan fawr o hyn. Rwy’n cyfeirio at addysg gynradd a pha mor gyffrous yw gwyddoniaeth a sut y caiff ei chyfleu i blant - ai delwedd ydyw o’r gwyddonydd gwallgof sy’n edrych fel Einstein? Er y gwnaed ymdrech i godi ymwybyddiaeth o wyddonwyr benywaidd, dydw i ddim yn siŵr a yw hyn yn cael ei wneud mewn ysgolion cynradd, ac os yw plant yn cael gweld, ar lefel ymarferol, beth y gall gwyddonwyr a pheirianwyr ei wneud.

Peth arall yw’r teganau i ferched â a’r teganau i fechgyn sydd ar y farchnad. Mae’r gwahaniaeth rhyngddynt yn amlwg, ac nid yw’n helpu bod y rhan fwyaf o’r teganau i ferched yn ymddangos i fod yn binc ac yn bert.

Rwy’n credu mai addysg gynnar a’r amgylchedd yn yr ysgol a’r teulu yw’r prif beth sy’n cyfrannu at hyn.

Pa gyngor sydd gennych i fenywod a merched sy’n ystyried gyrfa yn y maes adeiladu?

Yn gyntaf, mae cyfleoedd aruthrol ar gael. Bydd bob amser angen adeiladu pethau ac yn hynny o beth mae’n ddewis da iawn o yrfa.

Mae’r gwaith yn gyffrous ac mae llawer o agweddau arno: yr ochr wyddonol os ydych chi’n hoffi’r broses ddylunio; yr adeiladu ymarferol os ydych chi’n hoffi gweld pethau’n cael eu hadeiladu; yr ochr rheoli gan fod angen cadw llygad ar faint o amser y bydd yn ei gymryd, faint o arian y bydd yn ei gostio; yr ochr gymdeithasol gan y byddwch chi’n cwrdd â gwahanol bobl ac yn gweithio mewn grŵp; hyd yn oed ochr greadigol gan fod problemau’n siŵr o godi ac mae angen meddwl am y ffordd orau o’u datrys.

Mae cwmnïau a’r Llywodraeth wedi sylweddoli ers rhai blynyddoedd erbyn hyn bod y canlyniadau gorau yn cael eu creu mewn safleoedd gwaith cynrychioliadol a chynhwysol, ac felly nid yw bod yn fenyw yn berthnasol mwyach.

Fel gydag unrhyw beth arall, y prif beth yw bod gennych yr agwedd iawn – rwy’n credu mai’r peth pwysicaf i mi oedd cadw meddwl agored am unrhyw swydd a ddaeth i’m rhan, gwneud eich gorau glas bob amser, a pheidio â bod ag ofn camu allan o’ch cylch gwaith o ran dysgu sgiliau newydd, gan fod y sgiliau hynny fel arfer yn tynnu sylw atoch ar gyfer eich swydd nesaf. 

 

Mae peirianneg a gyrfaoedd eraill yn y maes adeiladu yn addas i ferched (#NotJustForBoys), rhannwch eich stori heddiw - #NWED2016